Darfydded son am bleser mwy,
Yn agos ac yn mhell;
Fel gallwyf yfed dyfroedd pur,
O ffynon lawer gwell.
O cau fy llygaid rhag im' wel'd
Pleserau gwael y byd,
Ac i mi wyro byth oddiar
Dy lwybrau gwerthfawr drud.
Byth gorfoledda f'enaid mwy,
Dy briod yw dy Dduw;
Mwy ydyw rhinwedd marwol glwy',
Na phechod o un rhyw.
'D â'i mofyn haeddiant byth,
na nerth,
Na ffafr neb na'i hedd,
Ond hwnw'n unig gwyd fy llwch,
Yn fyw i'r làn o'r bedd.
- - - - -
Darfyddwn son am bleser mwy,
Yn agos ac yn mhell;
Tra cawn i yfed
dyfroedd pur,
O ffynnon lawer gwell.
Darfydded dydd, darfydded nos,
Fel mynyd fechan awr;
Tra cawn yn caru a rhoi mhwys,
Ar fynwes f'Arglwydd mawr.
Eisteddais dan ei gysgod ef,
A'i ffrwyth oedd felus iawn;
Ac yma treuliwn ddyddiau f'oes,
Fyth fyth yn ddedwydd iawn.
Ac megys pren afalau pêr,
Yn nghanol prenau'r coed;
Felly f'Anwylyd yntau 'mhlith
Y meibion sy'n cael clod.
F'anwylyd sydd fel lili hardd,
Hyfryda erioed ei liw;
Ag sydd yn maeddu blodau'r byd,
Posïau pena' eu rhyw.
William Williams 1717-91
[Mesur: MC 8686] gwelir: 'D a' i 'mofyn haeddiant byth na nerth Darfydded dydd darfydded nôs F'anwylyd sydd fel lili hardd Iesu difyrwch f'enaid drud Iesu yw tegwch mawr y byd Mae durtur yr efengyl fwyn Na foed fy mywyd bellach mwy Ni feddaf ar a ddaear fawr O tyred Ysbryd sanctaidd pur 'Rwy'n morio tua chartre'm Nêr Tyr'd Ysbryd sanctaidd ledia'r ffordd Yn mysg gwyryfon Seion fry |
Let mention of pleasure cease evermore,
Near and far;
That I may drink pure waters,
From a better fount.
O close my eyes lest I see
The base pleasures of the world,
And I veer forever from
Thy costly, precious paths.
Forever rejoice, my soul, evermore,
Thy spouse is thy God;
Greater is the merit of a mortal wound,
Than sin of any kind.
I shall ask for no merit any more,
nor strength,
Nor the favour of anyone, nor his peace,
But him alone who shall raise my dust,
Alive up from the grave.
- - - - -
I would cease to mention pleasure any more,
Near and far;
As long as I could get to
drink pure waters,
From a much better fount.
Let day cease, let night cease,
Like the small minute of an hour;
As long as I get to love and lean,
On the breast of my great Lord.
I sat under his shade,
And his fruit was very sweet;
And here I would spend the days of my age,
Forever and ever very happy.
And like the fruit of the sweet apples,
In the midst of the trees of the wood;
Thus my Beloved himself amongst
The sons who are getting praise.
My Beloved is like a beautiful lily,
The most delightful ever his colour;
And who beats the flowers of the world,
The chief posies of their kind.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|